Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu manteision Celfyddydau mewn Iechyd - Lansio Strategaeth Newydd

"Er mwyn i gelfyddyd a chreadigrwydd gynorthwyo a gwella iechyd a llesiant ein cleifion, cymunedau a staff" - datganiad gweledigaeth Celfyddydau mewn Iechyd.

Yr wythnos hon, mae Tîm Celfyddyd mewn Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi lansio'r Strategaeth Celfyddydau Mewn Iechyd ar gyfer 2022-2027. Mae'r strategaeth yn gosod yr uchelgeisiau ar gyfer y cyfnod hwn o ran yr hyn y gellir ei gyflawni drwy waith pellach o fewn y celfyddydau i lesiant staff a thrigolion Gwent elwa ohono.

Yn dilyn yr amcanion allweddol:

•             I nodi a galluogi cyfleoedd i gynnal amgylcheddau cadarnhaol, croesawgar, cefnogol ac ysgogol i ddarparu gofal iechyd sy'n adlewyrchu'r diwylliannau a chymunedau maent yn eu gwasanaethu.

•             Darparu rhaglen gyson o brosiectau celfyddydol cyfranogol seiliedig ar dystiolaeth o ansawdd mewn lleoliadau gofal iechyd cymunedol, eilaidd a sylfaenol.

•             Sicrhau bod staff yn cael cymorth a'u bod yn hyderus wrth ddefnyddio celfyddydau a chreadigrwydd yn y gweithle.

•             Datblygu ac ehangu partneriaethau mewnol ac allanol gydag ymarferwyr unigol, sefydliadau iechyd a chelfyddydol a darparwyr eraill.

•             Casglu tystiolaeth, gwerthuso a sefydlu (yn fewnol) - a chyfrannu at (yn allanol) - y maes ymchwil y celfyddydau cenedlaethol mewn iechyd.

•             Clustnodi arian ac adnoddau cynaliadwy ar gyfer prosiectau celfyddyd mewn iechyd o fewn y bwrdd iechyd.

 

Mae'r rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd eisoes yn gwneud gwaith gwych ar draws y bwrdd iechyd i greu amgylcheddau cefnogol a chreadigol sy'n cynorthwyo staff, ymwelwyr, a'u llesiant.

Amgylcheddau Gwella

Mae gan gelfyddyd y pŵer i drawsnewid amgylcheddau gofal iechyd, i greu mannau i dawelu meddwl a chodi ysbryd a all gael effaith gadarnhaol ar lesiant cleifion, staff ac ymwelwyr. Gall y gelfyddyd gywir gynorthwyo i leihau straen, codi calon, a thynnu sylw sydd ei angen yn ddirfawr mewn amgylchedd gofal iechyd sy'n aml yn sterilaidd.

 

Gweithgareddau Creadigol

Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol o beintio a lliwio i ganu ac ysgrifennu gael effaith sylweddol ar lesiant. Gweithgareddau'n cael eu hysgogi gan awgrymiadau staff. Darparu modd i unigolion allu annog sgyrsiau, creadigrwydd a chydweithio.

 

Gweithio gyda Chymunedau a Phartneriaid

Gall cydweithio arwain at ganlyniadau gwell i bawb gyda'r posibilrwydd o barhau i ddarparu ystod o brosiectau o fudd. Mae creu cysylltiadau gyda hynny o gymorth i ddarparu prosiectau sydd o fudd i'r bobl sydd ei angen fwyaf.

Beth nesaf?

Cadwch lygad wrth i'r tîm gymryd camau pellach i brosesu'r strategaeth hon. Mae Fforwm Creadigol wedi ei sefydlu i ddarparu lle i brofi syniadau a chynorthwyo datblygiad Celfyddydau mewn Iechyd. Rydym yn croesawu awgrymiadau staff ar brosiectau celfyddydol y gallwn eu cynorthwyo wrth iddynt symud ymlaen.

Bydd y tîm hefyd yn:

•             Cynnal rhaglenni gwaith presennol a pharhaus lle fo'n briodol

•             Ymateb i gleifion, staff Bwrdd Iechyd a'r gymuned ehangach a'u cynorthwyo i ddatblygu prosiectau creadigol sy'n bodloni un neu fwy o'n Hamcanion Celfyddydau mewn Iechyd.

•             Ysgogi a chynnal partneriaethau a pherthnasoedd cydweithredol sy'n galluogi'r Strategaeth Gelfyddydau mewn Iechyd gael ei darparu.

•             Rhannu modelau arferion gorau celfyddyd mewn iechyd o fewn y Bwrdd Iechyd a chyfrannu at ddeialogau a mentrau allanol

 

 

Dysgwch fwy am y Celfyddydau mewn Iechyd:

u gwych gan Gonffederasiwn GIG, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring yn siarad am fanteision y Celfyddydau i gleifion a staff:

- https://www.nhsconfed.org/news/new-report-shows-arts-and-health-roles-within-nhs-improve-patient-and-staff-wellbeing

- https://baringfoundation.org.uk/news-story/baring-foundation-and-arts-council-of-wales-announce-a-new-programme-for-arts-and-mental-health-in-the -nhs/

- https://celf.cymru/cyfleoedd-newyddion/diwrnod-iechyd-meddwl-byd-cymru-byrddau-iechyd-dyfarnwyd-cymorth-ariannu-ffres

Mae'r prosiect 'Celfyddyd i'r Faenor' wedi cael sylw da. Dysgwch fwy drwy wylio'r fideo uchod neu'r ddolen hon - 

Mae'n amlygu cyfres wych o brosiectau celfyddydol sydd â'r nod o hybu llesiant staff a chleifion. Enghraifft wych yw'r dudalen 'Cysylltiadau Gofalgar' https://www.artforthegrange.com/

Cewch ddysgu rhagor am waith gwych Celfyddydau mewn Addysg Gwent yma https://www.artforthegrange.com/gofalu-grange-caring-connections