Dydd Gwener 13 Hydref
Diwrnod Shwmae hapus!
Ar Ddydd Sul 15fed o Hydref, dathlwn Ddiwrnod Shwmae, lle y gofynnir i bawb 'roi cynnig ar y Gymraeg'.
Mae Claire, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar o'n Tîm Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, yn ddysgwr ac yn eiriolwr Cymraeg a helpodd i gynhyrchu gêm gardiau dwyieithog ar gyfer claf a pherthnasau o bob oed. Mae'r gêm yn caniatáu i unrhyw un roi cynnig ar y Gymraeg, waeth beth yw eu lefel na'u sgiliau.
Dysgwch fwy am yr ystyr y tu ôl i'r gêm yn y fideo hwn: