Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu ein Staff yn ein Gwobrau Cydnabod Staff 2025!

Ar Ddydd Gwener 4ydd o Orffennaf, ar noswyl pen-blwydd y GIG yn 77 oed, fe wnaethom gynnal ein Gwobrau Cydnabod Staff blynyddol.


Mae bob amser yn fraint dod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd i anrhydeddu'r cyflawniadau anhygoel, yr ymroddiad a'r gofal tosturiol a ddarperir bob dydd. Yr hyn sy'n gwneud y digwyddiad hwn hyd yn oed yn fwy arbennig yw bod pob enwebiad yn dod gan gydweithwyr - dathliad gwirioneddol o werthfawrogiad cymheiriaid a chydnabyddiaeth gilyddol. Roedd y digwyddiad yn ddathliad o'r bobl sydd wrth wraidd y GIG.

Llywyddwyd y digwyddiad gan y Prif Weithredwr, Nicola Prygodzicz.

Wrth agor y digwyddiad, cydnabu Nicola y nifer aruthrol a safon yr enwebiadau a dderbyniwyd eleni. Meddai: “Rydym yn gweithio mewn amgylchedd heriol, ac nid oedd y flwyddyn ddiwethaf - yn enwedig y gaeaf - yn eithriad i hyn. Ond rwy'n cael fy ysbrydoli'n gyson gan yr ynni mae pobl yn ei ddod a'r syniadau cyffrous sydd yn dod i'r amlwg, hyd yn oed mewn amseroedd anodd.

"Rydym yn cydnabod, hyd yn oed gyda'r nifer hyn o enwebiadau, mai dim ond cipolwg yw hwn o'r gwaith rhagorol a wneir gan ein staff bob dydd. Felly mae ein dathliad heno yn ymwneud â chydnabod cyfraniad ein holl staff ond mae'r rhai ohonoch sydd yma heddiw, yn arbennig, wedi cael eich cydnabod am eich ymroddiad a’ch ymdrechion.”

 

Ac ymlaen at y gwobrau - rhestrir yr holl enillwyr a'r rhai a dderbyniodd dystysgrifau cymeradwyaeth uchel isod: