Bu wardiau ar draws ein hysbytai yn cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau thema yn ystod Gemau Olympaidd 2024!
Bu Ward A0 yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn cefnogi wythnos Maeth a Hydradu trwy gynnig lluniaeth a byrbrydau ar thema Olympaidd i gleifion. Cynigiwyd diodydd yn lliwiau'r logo Olympaidd fel bod claf yn yfed digon o hylif a hefyd yn cael ychydig o hwyl ar hyd y ffordd.
Bu'r cleifion a'r staff hefyd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth gwaywffon (gan ddefnyddio awyrennau papur) a phêl-foli (gan ddefnyddio balŵns) i'w helpu i gadw'n heini tra yn yr ysbyty i atal ddatgyflyru cyhyrol.
Mae cleifion ar Ward C7 Dwyrain yn Ysbyty Brenhinol Gwent hefyd wedi bod yn cofleidio naws y Gemau Olympaidd trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau thema yn yr ystafell ddydd dros yr wythnosau diwethaf.
I nodi’r seremoni agoriadol, buont yn creu eu fflach lampau Olympaidd eu hunain mewn sesiwn Celf a Chrefft er mwyn cefnogi Tîm Prydain Fawr.
Ers hynny, maen nhw wedi bod yn cymryd rhan mewn amryw o 'ddigwyddiadau Olympaidd' gyda'i gilydd, gan gynnwys pêl-droed, codi pwysau a thaflu cylch.
Mae’r gweithgareddau hyn wedi bod yn gyfle gwych iddynt godi, gwisgo, symud a chael hwyl!