Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb, ac mae croeso i bawb ddefnyddio eu Cymraeg gyda ni.
Rydym yn cefnogi ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg ’ Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sy’n rhedeg rhwng 25 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2024, i hyrwyddo hawliau’r cyhoedd i gael mynediad at ein gwasanaethau yn Gymraeg, yn ogystal ag annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
P'un a ydych chi'n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf rhugl neu'n ddechreuwr, rydyn ni i gyd yn gwybod o leiaf un gair Cymraeg, ac mae wastad lle i ymadrodd cymraeg ychwanegol yn eich geirfa! Mae ein staff wedi rhannu eu hoff eiriau cymreig yn y fideo canlynol: