Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddfa Newydd yn Agor yng Nglynebwy

Dydd Gwener 21 Gorffennaf 2023

Ar Ddydd Mercher 19eg o Orffennaf, agorwyd Smart Smiles yn swyddogol gan Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cafwyd Smart Smiles, practis deintyddol GIG newydd sbon, ei sefydlu yng Nglynebwy ar gyfer cleifion y GIG.

Meddai Len Smart, Perchennog y Practis, “Mae’r tîm a minnau’n falch iawn o’n practis newydd ac yn falch iawn o’r gefnogaeth barhaus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae agor y practis deintyddol newydd hwn wedi gwneud gofal deintyddol yn fwy hygyrch mewn ardal yng Ngwent sydd ag un o’r cyfraddau uchaf o bydredd dannedd, yn enwedig ymhlith plant.”

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae’n bleser mawr gen i agor practis Smart Smiles newydd yng Nglynebwy yn swyddogol. Bydd y practis hwn sydd o’r radd flaenaf yn darparu gwasanaethau deintyddol y GIG i bobl yng Nglynebwy am flynyddoedd i ddod. Roedd yr ymrwymiad i wasanaethau deintyddol y GIG yn glir yn y lansiad ac rwy’n llongyfarch Dr Len Smart ar ei fenter ddiweddaraf.”