Neidio i'r prif gynnwy

Derbyniadau Uniongyrchol i Ysbytai Cymunedol

Dydd Gwener 23 Gorffennaf 2021

O 26 Gorffennaf 2021, bydd cyfle i rai cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gael eu derbyn i ysbyty cymunedol yn hytrach nag un o'n hysbytai cyffredinol, uwch, lleol. Mae tystiolaeth gref nad oes angen gofal acíwt, ymyrraeth na chymorth diagnostig ar ganran o gleifion, ond eu bod angen lefel o gymorth na ellir ei darparu gartref. Bydd cleifion yn cael eu rhyddhau i fynd adref gyda chymorth gan dîm cymunedol os bydd angen.

Bydd y newid hwn yn y gwasanaeth yn galluogi timau meddygol i asesu unigolion yn llawn, cynnal profion helaeth a darparu gofal ychwanegol gan geisio ag osgoi'r straen o fynychu ysbyty cyffredinol, uwch, lleol. Deallwn mai adref yw'r lle gorau i gleifion felly bydd mynychu ysbyty cymunedol yn y tymor byr a chael cymorth ychwanegol gartref yn lleihau gorbryder cleifion a'u teuluoedd.

Bydd cleifion yn cael eu hatgyfeirio at ysbyty cymunedol gan eu Meddyg Teulu, Parafeddyg neu Ymgynghorydd Gofal Uniongyrchol ac yn cael eu cludo'n uniongyrchol i ysbyty cymunedol am gyfnod byr.

Yn y bôn, bydd y gwasanaeth hwn ar gyfer claf bregus a/neu hŷn sy'n adnabyddus i'r gwasanaethau ac sydd angen cyfnod o gymorth mwy dwys neu ofal nyrsio ychwanegol. Gall brofi hefyd fod gan yr unigolyn broblemau o ran ei sefyllfa gymdeithasol ac angen cael ei dderbyn i'r ysbyty i sicrhau ei ddiogelwch yn y tymor byr.

 

Astudiaeth Achos 1

Astudiaeth Achos 2