Heddiw, Dydd Iau 15 Hydref 2020, yw Diwrnod Shwmae, lle rydym yn annog pawb i ddechrau eu sgyrsiau gyda 'Shwmae' a 'Rhoi gynnig ar Gymraeg'. Mae ein cleifion wrth wraidd popeth a wnawn, felly ar gyfer diwrnod Shwmae eleni, rydym yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwasanaethau Iaith Gymraeg i'n cleifion.
Hoffech chi wybod pam mae defnyddio'r Gymraeg mor bwysig? Dewch i gyfarfod â'n Hyrwyddwyr Cymraeg o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd! Darllenwch eu proffiliau isod i ddysgu mwy am eu rolau swydd, eu cefndiroedd, a pham mae defnyddio'r Gymraeg mor bwysig iddyn nhw.
Peidiwch ag anghofio dweud Shwmae wrth ein Hyrwyddwyr os byddwch chi byth yn eu gweld o amgylch ein gwefannau! #RhowchGynnigArni