Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Ry’n ni’n gwahodd eich barn chi wrth gysidro lleoliad i Uned Cleifion Arbenigol ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu newydd yng Ngwent.

Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cysidro ffyrdd i drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion ar gyfer y dyfodol yng Ngwent.

Mae rhan o hyn yn cynnwys edrych am lleoliadd safle ar gyfer ganolfan newydd ar gyfer darparu gwasanaethau cleifion arbenigol cleifion mewnol i oedolion.

Mae’r Adran Iechyd Meddwl wedi edrych ar opsiynau i’r safle gyda grŵp o glinigwyr ac arbenigwyr arall a wedi cynhyrcu ein awgrymiadau, be hoffwn ddigwydd nesaf yw gwrando ar eich barn chi am yr opsiynau sydd yn cael eu cysidro ar gyfer lleoliad y safle.

Os hoffech rannu eich barn rydym yn cynnal dau weithdy cyhoeddus:
 

Dydd Llun Medi 19 2022 – 11:00yb i 1:30yp – yn Olive Tree Cwmbrân- Edlogan Way, Cwmbrân NP44 2JJ

Dydd Mercher Medi 28 2022 – 10:30yb i 1:00yp – drwy Microsoft Teams (dolen i ymuno â’r cyfarfod)


Rhowch wybod i ni lle a pryd hoffwch fynychu’r digwyddiadau rhithwir.

Fydd y sesiwn yn para dwy awr a hanner, gan gynnwys egwyl. Fydd y sesiwn yn cychwyn gyda cyflwyniad o’r opsiynau cyn trafodaethau wedi’u hwyluso. Wedi hynny, fydd cyfle i chi gymeryd rhan mewn adborth grŵp i rhannu’ch barn.

Os mae diddordeb gyda chi mewn mynychu, fydd gwybodaeth am yr opsiynau yn cael ei rhannu gyda chi o flaen llaw neu, os hoffwch rhannu’ch barn ond methu mynychu, rhowch wybod i ni.

Rhowch wybod i ni ble a phryd yr hoffech chi fynychu'r digwyddiadau. Gallwch gael mynediad i'n ffurflen drwy ddilyn y ddolen hon neu sganio'r cod QR isod o unrhyw ffôn clyfar neu ddyfais sydd wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd.

 

Ebostiwch: ABB.MHLDEngagement@wales.nhs.uk