Neidio i'r prif gynnwy

Dim Ymweliadau Ysbyty i Drigolion Caerffili

Bu cynnydd sylweddol mewn achosion cadarnhaol Coronafeirws ym Mwrdeistref Caerffili yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn amddiffyn ein cleifion, y Cyhoedd a'n staff, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ei gweld yn hanfodol i gefnogi polisi 'Dim Ymweld' ar ein holl Wardiau ac ardaloedd cleifion gan drigolion Caerffili ar unwaith.

Rydym yn hollol gydnabod pwysigrwydd cyswllt rhwng cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ond mae'n rhaid i ni gymryd mesurau i atal lledaeniad yr haint hon.

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn gwerthfawrogi'n llwyr bod hyn yn anhygoel o anodd. Hoffem eich sicrhau y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson, ond bydd yr eithriadau canlynol yn bertynasol:

Dylid caniatáu ymweld ar gyfer:

  • Menywod ar fin rhoi genedigaeth (partner geni, o'u cartref)
  • Rhiant neu warcheidwad enwebedig ar gyfer plentyn yn yr Ysbyty ac ar gyfer babanod newydd-anedig
  • Byddai rhywun â phroblem Iechyd Meddwl, anabledd dysgu neu awtistiaeth, lle fydd ddim bod yn bresennol yn achosi trallod i'r claf/ defnyddiwr gwasanaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu gan Rheolwr y Ward a bydd opsiynau ymweld yn cael eu penderfynnu ymlaen llaw.
  • Cleifion ar Ofal Diwedd Oes. Sicrheir caniatâd i ymweld ymlaen llaw (lle bo hynny'n bosibl), un ymwelydd ar y tro fydd hwn am nifer benodol fel y cytunwyd gyda Rheolwr y Ward.

Diolch i chi am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth yn ystod yr amseroedd anodd a digynsail hyn.