Neidio i'r prif gynnwy

Diolchwyd i'r Staff Am Eu Gofal, eu Dealltwriaeth a'u Tosturi

“Ar ran fy nheulu, a wnewch chi ddiolch o galon i’r holl staff a oedd yn gweithio yn yr Adran Achosion Brys ar 13 Gorffennaf 2023, yn enwedig i staff y tîm Dadebru a’r tîm Achosion Mawr.

Cyrhaeddodd Albert, fy nhad, yr ysbyty mewn ambiwlans yn y bore ar ôl imi gael galwad gan ei ofalwr yn dweud nad oedd yn dda, er fy mod wedi’i adael y noson gynt heb unrhyw bryderon yn ei gylch. Yn anffodus, dirywiodd cyflwr Dad yn sylweddol dros nos ac roedd angen gofal brys arno, a dyna a gafodd – dim ond am 15 munud y bu’n rhaid i Dad aros am ambiwlans ar ôl fy ngalwad a chafodd ofal effeithlon a di-oed ar ôl cyrraedd yr ysbyty. O fewn awr, cefais wybod nad oedd disgwyl i Dad ddod trwyddi a’i fod mewn cyflwr critigol. Yr adeg honno, bu modd imi gysylltu ag aelodau’r teulu ac fe gawson nhw gyfle i ddod i’r ysbyty, gyda rhai ohonyn nhw’n gyrru oddeutu dwy awr er mwyn cael bod gyda Dad.

Symudwyd Dad o’r adran Ddadebru i giwbicl yn yr adran Achosion Mawr. Rydym yn deulu mawr a dechreuodd plant, wyrion ac wyresau, a gorwyrion a gorwyresau gyrraedd. Ar un adeg, rydw i’n cofio gweld o leiaf 14 ohonom gydag ef. Ni ofynnodd neb inni gyfyngu ar nifer y bobl a oedd wrth erchwyn gwely Dad a rhoddodd y staff de, coffi a bisgedi inni, gan holi’n barhaus a oedden ni angen unrhyw beth. Bu farw Dad o sepsis am 23:30 ar yr un diwrnod.

Oherwydd dealltwriaeth a thosturi’r staff, cafodd Dad farw’n dawel, heb boen, gyda pharch a chyda’i deulu wrth ei ochr. Fel teulu, mae hyn oll wedi bod yn anodd iawn inni, oherwydd fe wnaethon ni golli ein Mam (Jean) ym mis Mawrth yn Ysbyty Neuadd Nevill, lle cafodd hithau hefyd ofal rhagorol. Erbyn hyn, mae Dad mewn hedd gyda Mam – roedd yn ei cholli’n ofnadwy ar ôl 68 mlynedd o briodas.

Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi cael ei beirniadu’n hallt ers i’r ysbyty agor, ond y cwbl y gallaf i ei ddweud yw bod y profiad a gefais gyda fy niweddar rieni wedi bod yn rhagorol. Pan ydych chi angen gofal brys, rydych chi’n ei gael. Dyna hanfod Adrannau Achosion Brys.

Diolch o galon gan ein holl deulu.” – Karen, merch Albert a Jean.