Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad am y brechlyn- wythnos yn dechrau 18 Ionawr 2021

Dydd Llun 18 Ionawr 2021

Ar draws ein Bwrdd Iechyd, rydym bellach wedi brechu cyfanswm o 25,877 o bobl.

Mae preswylwyr o 72 o'r 95 o gartrefi gofal i oedolion hŷn yn ardal y bwrdd iechyd wedi cael cynnig y brechiad, gyda staff mewn 90% o'n cartrefi gofal oedolion hŷn yn cael cynnig y brechlyn. Rydym wedi brechu 7,777 o bobl 80 oed a'n hŷn a 6,500+ o staff iechyd rheng flaen.

Darllenwch fwy am ein newyddion brechu yng Ngylchlythyr Brechlyn wythnos hon.

Yr wythnos diwethaf, agorodd canolfannau brechu yng Nglynebwy a'r Fenni, sy'n golygu bod 4 canolfan frechu bellach ar agor ar draws y pum bwrdeistref. Bydd canolfan frechu yn agor ddydd Llun yr wythnos hon yng Nghasnewydd a fydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos, yn dibynnu ar y cyflenwad o frechlynnau. Rhaid cael apwyntiad i fynychu ein holl ganolfannau brechu, ac fe gysylltir â phobl os byddant yn cael eu galw i fynychu eu hapwyntiad.

Yr wythnos hon, rydym wedi cynllunio i frechu 24,000. Bydd 72 o bractisau meddygon teulu ar draws ardal y Bwrdd Iechyd yn dechrau brechu cleifion yn 80 oed a'n hŷn. Erbyn diwedd yr wythnos hon byddwn wedi agor 5 canolfan frechu, un ym mhob bwrdeistref.

Cofiwch ein bod yn dilyn grwpiau blaenoriaeth y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) a bod gennym gynlluniau ar waith i frechu'r ddau brif grŵp blaenoriaeth yn y lle cyntaf:

1. Preswylwyr mewn Cartref Gofal i oedolion hŷn a'u gofalwyr

2. Yn 80 oed ac yn hŷn, ynghyd â gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol rheng flaen

O'r wythnos hon, y rhai sy'n dod o fewn y trydydd grŵp blaenoriaeth; 3. Bydd pawb sy'n 75 oed ac yn hŷn yn dechrau derbyn llythyrau gwahoddiad ar gyfer eu brechlyn. Cofiwch, os ydych yn 80 oed ac yn hŷn, ac nad ydych wedi derbyn gwahoddiad i'ch brechlyn eto, cewch eich gwahodd dros yr wythnosau nesaf.

Os byddwch yn derbyn apwyntiad, gwnewch bopeth o fewn eich gallu i fynychu gan ein bod yn brechu miloedd o bobl bob wythnos. Mae cyflenwadau brechlynnau'n gyfyngedig, mae cyflenwi'r brechlyn wedi'i rewi, Pfizer, yn fwy sicr ond allwn ond cynnig hynny yn ein canolfannau brechu mwy ar hyn o bryd. Drwy gynnig y brechlyn drwy bractisau meddygon teulu ac ar draws ardal ein Bwrdd Iechyd, rydym yn gwneud ein gorau glas i leihau amser teithio ac rydym yn gwerthfawrogi pawb sy'n mynychu eu apwyntiad.

Rydym yn parhau i ddatblygu ein proses canolfan archebu a'n canolfan alwadau ac yn bwriadu cynyddu capasiti wrth i gyflenwadau gynyddu. Mae hyn yn golygu y gallwn wella'r gwasanaeth a gynigiwn gan ein bod wedi sylwi y gall y llinellau fod yn brysur iawn ar adegau.

Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ond oherwydd nifer o ffactorau amrywiol, megis cyflenwadau'r brechlyn, gall cynlluniau a ddyrannwyd newid ar fyr rybudd.

Hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a gyda'n gilydd byddwn yn helpu i ddiogelu Gwent.

 

Cyhoeddwyd Iechyd Cyhoeddus ffigyrau brechu dyddiol ar eu gwefan.

Mwy o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin ar y brechiad yma.