Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Gyfyngiadau Ymweld

Mae'n braf nodi bod lefelau Rhybudd Llywodraeth Cymru wedi gostwng i 0 ar gyfer y poblogaeth gyffredinol - ond yn unol â'r canllawiau cenedlaethol mae mesurau COVID yn parhau i fod ar waith ar safle gofal iechyd - er mwyn amddiffyn cleifion hynod fregus. Mae hyn yn cynnwys pellhau cymdeithasol a defnyddio masgiau wyneb.

Fodd bynnag, mae'r rhaglen frechu lwyddiannus wedi arwain at lacio cyfyngiadau ymweld ac rydym yn parhau i dderbyn nifer fach o ymwelwyr dynodedig i'n safleoedd ysbytai.

Rydym yn deall pwysigrwydd a buddion ymweld â chleifion yn yr ysbyty i deuluoedd, cleifion a hefyd i'n staff. Rydym yn falch o fod mewn sefyllfa i allu ymgymryd â hyn a thrwy gyfyngu ar nifer yr ymwelwyr a chael gweithdrefnau llym ar waith, rydym yn gallu ailgyflwyno ymweld yn araf ac yn ddiogel.

Ymwelir trwy gyn-apwyntiad yn unig a bydd ymwelwyr cleifion â dementia, anableddau dysgu a'r rheini ar ddiwedd oes yn cael eu blaenoriaethu. Estynnir ymweliadau i'r cleifion hynny nad ydynt yn dod o dan y categorïau uchod ond a fydd ar gyfer aelodau uniongyrchol o'r teulu neu “eraill arbennig” yn unig . Bydd y trafodaethau hyn yn digwydd gyda'r claf, neu'r gofalwr, wrth gael ei dderbyn i'r ysbyty

Rydym wedi cyflwyno Profion Llif Ochrol i'r holl ymwelwyr er mwyn sicrhau ein bod yn cadw cleifion, staff a'r cyhoedd mor ddiogel â phosibl. Dim ond er mwyn sicrhau bod rhagofalon caeth yn cael eu cymryd a'n galluogi i gynnal mesurau pellhau cymdeithasol y gellir ymweld. Er mwyn osgoi cael eich siomi, peidiwch â mynychu unrhyw un o safleoedd yr ysbyty heb apwyntiad wedi'i drefnu ymlaen llaw. .

Rhaid inni gofio bod llawer o'n cleifion yn ein hysbytai yn llawer mwy tueddol o gael heintiau ac felly mae'n rhaid i ni gymryd pob rhagofal i sicrhau eu diogelwch. Byddwn yn parhau i adolygu'r trefniadau hyn yn gyson, mae angen bod yn ymwybodol iawn o gyfraddau trosglwyddo cymunedol a newidiadau i lefelau Rhybudd Llywodraethau Cymru a allai effeithio ar ymweld ar fyr rybudd.

Yn olaf, i'r rhai na allant ymweld, gallwn hwyluso 'ymweliad rhithwir' trwy ein dyfeisiau electronig ysbyty y gellir eu trefnu gan y Rheolwr Ward neu'r Nyrs â Gofal.