Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Ddos Atgyfnerthu'r Hydref Covid-19

Bydd Dos Atgyfnerthu’r Hydref Covid-19 2023 yn dechrau yng Ngwent ar 11eg o Fedi, a byddwn yn dechrau gyda'n rhai mwyaf agored i niwed o fewn cartrefi gofal. Rydym am atgoffa pobl bod Covid-19 yn dal i fod yn cylchredeg ledled Cymru a'r ffordd orau i'ch diogelu chi a'r rhai o'ch cwmpas y gaeaf hwn yw gyda Dos Atgyfnerthu’r Hydref.

Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n cwblhau cynlluniau ar gyfer y gwaith o ddarparu dosau atgyfnerthu'r Hydref ledled Gwent a byddwn yn gwahodd pobl gymwys yn fuan. Bydd y rhai sy'n gymwys i dderbyn dos atgyfnerthu'r Hydref hwn yn derbyn gwahoddiad drwy lythyr, neges destun neu alwad ffôn, ac ein nod yw gwahodd pawb erbyn diwedd mis Tachwedd. I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys eleni, ewch i: Datganiad Ysgrifenedig: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu – y cyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn hydref 2023 (8 Awst 2023) | LLYW.CYMRU

 

Cael eich Brechu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)