Helpwch ni i amddiffyn ein cleifion
Er mwyn helpu i atal haint, rhaid i bob ymwelwr, claf ac aelod o staff wisgo masgiau wyneb wrth fynd i mewn i'n holl safleoedd ysbytai, wardiau, adrannau brys a lleoliadau clinigol, gan gynnwys ein Hunedau Mân Anafiadau (MIU).
Bydd masgiau ar gael wrth y mynedfeydd i wardiau ac ardaloedd clinigol. Byddem hefyd yn gofyn i unrhyw un sy'n ymweld â'n safleoedd i olchi eu dwylo'n rheolaidd neu ddefnyddio'r gel dwylo a ddarperir.
Er mwyn ein helpu ni i atal unrhyw ledaeniad pellach, gofynnir bod dim ond 1 oedolyn arall yn dod gyda chlaf.
Bydd defnyddio masgiau a hylendid dwylo cywir yn ein helpu i ddiogelu cleifion sy'n agored i niwed a lleihau risgiau trosglwyddo
Rydym yn gweld nifer sylweddol o achosion ffliw a heintiau anadlol eraill ar draws ein cymunedau a chynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty.
💪🏼 Byddem yn annog unrhyw un sy'n gymwys i amddiffyn eu hunain trwy gael eu brechlyn ffliw. Gallwch nawr alw heibio unrhyw un o'n clinigau brechu i gael eich un chi.
👉🏼I weld a ydych yn gymwys a ble mae eich clinig agosaf, ewch i: https://bipab.gig.cymru/brechiadau1/clinigau-brechu-dros-dro/
Ledled Gwent, rydym yn gweld achosion ffliw yn cynyddu o fewn ein cymunedau ac mewn derbyniadau i ysbytai.
Er mwyn helpu i'w hatal rhag lledaenu pellach, mae'n rhaid i'r holl staff, ymwelwyr a chleifion wisgo masgiau wyneb wrth fynd i mewn i bob ward ysbyty, yr Adran Achosion Brys a lleoliadau clinigol, gan gynnwys ein Hunedau Mân Anafiadau (MIU).
Bydd masgiau ar gael wrth fynedfeydd wardiau ac ardaloedd clinigol.
Bydd defnyddio masgiau a hylendid dwylo cywir yn ein helpu i amddiffyn cleifion bregus a lleihau risgiau trosglwyddo.
Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu ein cymunedau. Diolch am eich cefnogaeth!