Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Wythnosol am y Frechlyn Covid-19

Dydd Mercher 6 Ionawr 2021

Bob wythnos, byddwn yn eich diweddaru chi ar ble'r ydym gyda'r broses o gyflwyno brechlyn Covid-19 yng Ngwent. Dyma ddiweddariad yr wythnos hon:

Fel Bwrdd Iechyd, ein bwriad yw brechu cymaint o bobl gymwys mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Rydym yn dilyn grwpiau blaenoriaeth y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) ac mae gennym gynlluniau ar waith i frechu'r ddau grŵp blaenoriaeth uchaf yn y lle cyntaf. Hynny yw:

1. Trigolion mewn Cartref Gofal ar gyfer Oedolion Hŷn a'u gofalwyr

2. Pobl dros 80 oed a gweithwyr rheng flaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae cyfanswm y bobl yng Ngwent sy'n dod o fewn y ddau grŵp blaenoriaeth uchaf yn cyfateb i gyfanswm o 60,400 o bobl- mae 30,000 ohonynt dros 80 oed.

Rydym yn bwriadu agor nifer o ganolfannau brechu torfol ledled Gwent, gan gynnwys ym Mlaenau Gwent, bwrdeistref Caerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd, wrth i'r cyflenwad brechlyn ddod ar gael. Yn ogystal, bydd unedau symudol yn cael eu defnyddio i helpu i ddanfon y brechlyn i gartrefi gofal a thrwy rai meddygfeydd ledled Gwent.

Mae cymeradwyo'r brechlyn AstraZeneca bellach wedi ein galluogi i ddechrau brechu preswylwyr mewn cartrefi gofal.

Dros y tair wythnos gyntaf o ddechrau'r broses gyflwyno, rydym wedi brechu mwy na 6,000 o bobl, gan ddefnyddio'r holl gyflenwad a gawsom. Mae gennym gynlluniau ar waith i gyflawni i'r ddau grŵp blaenoriaeth uchaf yn unol â chyflenwadau yn y dyfodol, wrth iddynt ddod ar gael.

Ar gyfer preswylwyr dros 80 oed, bydd mwyafrif y preswylwyr yn derbyn eu gwahoddiad am y brechlyn trwy lythyr, y dylech chi ddisgwyl ei dderbyn dros yr wythnosau nesaf. Os oes apwyntiadau ar gael ar fyr rybudd, gellir cysylltu â phobl dros y ffôn hefyd ond bydd y prif lwybr gwahoddiad trwy lythyr.

O fewn yr ychydig wythnosau nesaf, bydd pob cartref ledled Gwent yn derbyn llythyr gan y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol gyda gwybodaeth bellach am ddosbarthiad y brechlyn Covid-19.

Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi. Fodd bynnag, oherwydd nifer o ffactorau amrywiol (megis nifer y dosau a ddyrennir i ni), gall cynlluniau newid ar fyr rybudd.

Rydym am ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a gyda'n gilydd byddwn yn helpu i gadw Gwent yn ddiogel.

Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.