Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd

Dydd Mercher 23 Tachwedd 2022

Ar gyfer Diwrnod Gweithiwr Cymorth Iechyd Gofal, gofynnom i’n staff enwebu eu cydweithwyr Gweithwyr Cymorth Iechyd Gofal am eu gwaith rhagorol.

Enwebwyd Donna, Alison, Jayne, Ann, Kirsti, Dawn, Charlotte, Sara, Stephen a Thîm Radioleg, o Ysbyty Nevill Hall Hospital gan eu timau a dyma oedd ganddynt i’w ddweud…

 

Donna Harris - “Hoffwn enwebu Donna am ei gwaith ardderchog o fewn ein gwasanaeth. Mae ei hymddygiad a’i hagwedd Siriol yn rhoi pleser i’r cleifion ac i’r staff meddygol.”

 

 

 

Alison Williams - “Mae Alison yn HCSW anhygoel. Mae hi’n mynd un filltir ymhellach bob tro a does dim byd yn ormod o drafferth iddi ar gyfer ei chleifion. Mae hi’n ysbrydoliaeth i mi ar bob shift gyda’n gilydd.”

 

 

 

Jayne Baugh - “Mae Jayne yn ysbrydoliaeth ysgubol yn ein hadran, ac yn gweithio mor galed, yn ofalgar ac yn gwneud llawer mwy na’r galw ar gyfer ei chleifion. Mae hi’n gwneud unrhyw beth er mwyn rhoi gwên ar wyneb plentyn.”

 

 

 

 

Ann Gabb, Kirsti Brown, Dawn Owens a Charlotte Bowyer - “Mae gennyf bedair gweithiwr cymorth gofal iechyd arbennig. Rwyf mor falch o’u gwaith caled a’u hymroddiad ac rwy’n eithriadol o ffodus eu cael yn gweithio yn ein tîm.”

 

Sara Shevill a Stephen Evans - “Mae Sara a Stephen yn gweithio’n ddiflino yn y gymuned, yn gwneud amryw o alwadau bob diwrnod. Mae ein cleifion wrth eu boddau â nhw ac yn edrych ymlaen at eu hymweliadau.”

 

 

 

 

Tîm HCSW o Radioleg, Ysbyty Nevill Hall - “Rwyf mor falch o’r tîm HCSW sydd gennym yn NHH. Maent mor broffesiynol a gweithgar, maent yn gwneud gwaith gwych. Mi fyddai pethau’n anodd iawn hebddynt.

 

 

 

 

Diwrnod Gweithiwr Cymorth Iechyd Gofal Hapus!