Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Iechyd y Byd Hapus!

Dydd Mercher 7 Ebrill 2021

Heddiw, 7fed Ebrill, yw Diwrnod Iechyd y Byd. Bob blwyddyn, ar ben-blwydd sefydlu Sefydliad Iechyd y Byd yn 1948, mae'r diwrnod hwn yn tynnu sylw at bwnc iechyd penodol sy'n peri pryder i bobl ledled y byd.

Thema eleni ar gyfer Diwrnod Iechyd y Byd yw "Adeiladu byd tecach ac iachach i bawb".

Fel Bwrdd Iechyd, ein nod yw gwella iechyd a lles y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a sicrhau cynaliadwyedd ein system gofal iechyd y GIG. Mae ein rhaglen Dyfodol Clinigol wedi newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau, tra'n sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a phob penderfyniad a wnawn. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r boblogaeth i fyw mwy o'u bywydau mewn iechyd da am gyfnod hirach ac i ddarparu gofal diogel mor lleol â phosibl, naill ai yng nghartrefi pobl neu mor agos atynt â phosibl.

Gweler rhagor o wybodaeth am ein holl wasanaethau gofal iechyd ar y wefan hon.