Ar Ddydd Mawrth 12eg o Fai, nodir Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, lle rydyn ni'n dathlu ein Nyrsys anhygoel a'r holl waith ardderchog maen nhw'n ei wneud.
Heb ein Nyrsys anhygoel, ni fyddem yn gallu gofalu am gleifion yn y ffordd yr ydym yn ei wneud nawr.
Yn y fideo hwn, mae Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio, yn talu teyrnged i waith hynod werthfawr ein nyrsys a'n bydwragedd ac mae'n diolch yn bersonol i holl staff y Bwrdd Iechyd am eu gwaith a'u cyfraniad gwych ar yr adeg heriol hon.