Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys Hapus!

Dydd Mercher 12 Mai 2021

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Y Nyrsys, mae'n bwysig cydnabod cyfraniad ein cydweithwyr nyrsio o dramor.

A wyddoch chi, o'r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru, ein bod ni'n recriwtio'r nifer fwyaf o nyrsys tramor? Ers mis Medi 2019, rydym wedi recriwtio 207 o Nyrsys Tramor o India a'r Philippines.

Ar ôl cyrraedd y DU, rydym yn darparu Gofal Bugeiliol a chymorth parhaus, ynghŷd â chysylltiad rheolaidd â'n Tîm Gweithlu. Rydym hefyd yn darparu pecyn addysgol dwys a chefnogol i baratoi'r nyrsys ar gyfer cofrestru'r NMC ac i ofalu am ein cleifion.

Mae ein nyrsys tramor yn cael Prawf Iaith Saesneg, prawf cyfrifiadurol ac Asesiad Clinigol, ac mae eu canlyniadau wedi bod yn rhagorol! Yn 2020/21, pasiodd 94% y tro cyntaf, gyda 100% yn pasio ar ôl ailsefyll. Rydym mor falch o'n nyrsys tramor a hoffem ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys Hapus iddynt!

Dyma neges o'r galon o ddiolch a gwerthfawrogiad gan Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: