Neidio i'r prif gynnwy

Dyfodol Gwasanaethau Ysbyty Brys yng Ngwent

Oes gennych chi gwestiwn am ddyfodol Gwasanaethau Ysbyty Brys yn Gwent?

Ymunwch â ni ar Ddydd Iau 22 Hydref am 2:30 pm ar gyfer ein sesiwn Holi ac Ateb byw ar Facebook, neu gallwch wylio yn ôl yn nes ymlaen ar ein tudalen Facebook.

Bydd aelodau o staff ein Adran Achosion Brys (A&E) wrth law i drafod sut y bydd ein gwasanaethau'n newid pan fydd Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn agor ar 17 Tachwedd.

Croesawir gwestiynau a sylwadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Danfonwch eich cwestiynau atom yn y sylwadau ar ein tudalen Facebook a byddwn yn gofyn i'r arbenigwyr ar eich rhan (nodwch y byddwn yn ateb cwestiynau ar bwnc Gwasanaethau Ysbyty Brys yn unig yn ystod y darllediad byw hwn).