Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch Fwy Am ein Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol (CNRS)

Dydd Gwener 20 Mai 2022

Mae hi'n wythnos Ymwybyddiaeth Anafiadau i'r Ymennydd, felly cawsom sgwrs â Thomas o'r Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol (CNRS). Mae’r tîm yn cynnig cymorth adsefydlu i oedolion yng Ngwent a Chaerffili ar ôl iddynt gael eu rhyddhau ar ôl strôc neu anaf i’r ymennydd er mwyn deall eu cyflwr, datblygu ac ailddysgu sgiliau, dychwelyd i hobïau neu gyflogaeth, gwella ansawdd bywyd, a chynyddu annibyniaeth a hunan-rheolaeth yn y gymuned.

 

Dywedodd Thomas: “Mae nodau adsefydlu yn cael eu gosod gyda’r person fel rhan o asesiad, ac yna mae sesiynau therapi yn cael eu hamserlennu, gan weithio tuag at y rhain. Mae nodau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd, ac rydym yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau cleifion allanol ac asiantaethau allanol i sicrhau bod ymyriadau cyson a phriodol yn cael eu cynnig.”

 

Darllenwch fwy am rôl Seicolegydd Cynorthwyol Thomas isod..