Neidio i'r prif gynnwy

Ein Datganiad mewn Ymateb i'r Trais a Therfysgoedd Ledled y DU

Datganiad gan y Cadeirydd, Ann Lloyd, a’r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol, James Calvert, ar ran y Bwrdd:

 

Rydym wedi ein syfrdanu a’n brawychu’n llwyr gan y trais, yr hiliaeth a’r dinistr a ddangoswyd ar draws y DU o fewn yr wythnos ddiwethaf, a gwyddom fod hyn wedi bod yn frawychus i lawer o’n staff a’n cymunedau.

Mae'r GIG yn cynnwys llawer o genhedloedd, crefyddau a chefndiroedd o bob rhan o'r byd ac mae ein neges yn glir: Rydym yn sefyll mewn undod gyda'n holl staff; nid oes lle i gasineb yn y GIG.

Credwn yng ngrym amrywiaeth a’r cryfder sy’n dod o wahanol safbwyntiau, cefndiroedd a phrofiadau, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod o’n staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u bod yn ddiogel pan ddônt i’r gwaith.

Mae gan ein staff yr hawl i ddod i weithio mewn amgylchedd diogel a pharchus sy'n rhydd rhag niwed a gwahaniaethu. Mae gennym ni bolisi dim goddefgarwch yn erbyn casineb a chamdriniaeth. Os byddwch yn dyst i unrhyw fath o gasineb neu wahaniaethu, rhowch wybod i'r heddlu ar unwaith.