Trafodwch ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Beth sydd yn gweithio'n dda?
- Beth sydd angen newid?
- Sut allwn wella?
Ymunwch â ni ar y 12fed o Hydref yn Nhrecelyn er mwyn cael rhannu eich barn.
Darparir y digwyddiad gan Gomisiwn Bevan, sef prif felin drafod annibynnol iechyd a gofal Cymru. Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn casglu eich barn ynglŷn â sut allwn wella a chynnal y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.
Bydd Comisiwn Bevan yn defnyddio eich safbwyntiau a syniadau o’r trafodaethau hyn er mwyn cynhyrchu adroddiad cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag adroddiad lleol ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gan argymell newidiadau. Mae Comisiwn Bevan yn llais annibynnol y gellir ymddiried ynddo yng Nghymru, a bydd yr adroddiad hwn yn dylanwadu ar sut gaiff penderfyniadau eu gwneud.
Mae croeso i bawb i'r digwyddiad anffurfiol a rhyngweithiol hwn, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd lluniaeth ar gael.
I Gallwch cadw eich lle trwy sganio'r cod QR (dde) neu ymweld â gwefan Eventbrite .
Os na allwch ymuno â’r digwyddiad hwn, gallwch ymuno â’n trafodaethau cenedlaethol ar-lein a gynhelir ar 07/11/2023 drwy ffonio 01792 604630 neu e-bostio
bevan-commission@swansea.ac.uk