Neidio i'r prif gynnwy

Gardd Goffa Babanod yn Ysbyty Nevill Hall i Symud i Ardal Fwy o Fewn yr Ysbyty

Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch iawn bod Ysbyty Nevill Hall wedi'i ddewis fel y lleoliad ar gyfer Canolfan Lloeren Radiotherapi newydd yn Ne Ddwyrain Cymru, i helpu i wella gofal canser yn yr ardal.

Ar ôl proses ddethol, nodwyd Ysbyty Nevill Hall fel y lleoliad orau yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru, sy'n golygu y byddai bron pawb sydd angen triniaeth radiotherapi sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru o fewn pellter teithio 45 munud neu lai naill ai o Ganolfan Ganser Velindre neu y Ganolfan Lloeren Radiotherapi, gan arbed mwy na 3,000 awr y flwyddyn mewn amser teithio a chefnogi'r canllawiau pellter teithio a argymhellir gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr.

O ganlyniad i'r gwaith yn cychwyn ar y Ganolfan Lloeren Radiotherapi newydd, rydym yn symud yr ardd goffa babanod bresennol yn Ysbyty Nevill Hall i leoliad newydd a mwy ar dir yr ysbyty.

Rydym yn deall bod llawer o deuluoedd yn defnyddio'r ardd hon i fyfyrio ac i ddod o hyd i heddwch â'r babanod hynny yr ydym wedi eu colli. Rydym wedi ystyried hyn wrth ddylunio'r ardd newydd, er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn deyrnged barhaol i'r babanod hynny sydd, yn anffodus, wedi marw.

Byddwn yn symud meinciau coffa, coed a llwyni presennol a phob darn sentimental i'r ardd newydd ynghyd â'r goeden Magnolia bresennol. Byddwn hefyd yn plannu coeden goffa ychwanegol er cof am fydwraig a fu farw yn anffodus oherwydd Covid.

Byddwn yn cynnal gwasanaeth yn yr ardd goffa newydd yn Ysbyty Nevill Hall pan fydd yn agor yn swyddogol ar Ddydd Sadwrn y Pasg, 16 Ebrill 2022.