Neidio i'r prif gynnwy

GIG Gwent a phartneriaid yn uno er mwyn cefnogi poblogaethau sydd mewn mwy o berygl o gael Hepatitis B ac C

Dydd Sul 28 Gorffennaf 2024

“Gall Hepatitis B ac C effeithio ar unrhyw un, gyda rhai poblogaethau penodol mewn mwy o berygl. Gall y rhain gynnwys pobl sy’n rhan o’r gwasanaethau carchar a phrawf, pobl ddigartref a phobl o wledydd lle mae Hepatitis B ac C yn gyffredin iawn, fel cymunedau o Dde Asia ac Affrica Islaw’r Sahara.
 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda’n timau hepatoleg, a gan weithio gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys y Gwasanaeth Carchar a Phrawf, Muslim Doctors Cymru a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, rydym wedi sgrinio dros 1,500 o bobl sydd mewn mwy o berygl o gael Hepatitis B ac C. Rydym wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol. Mae hyn yn rhan o’n hymdrechion i weithio gyda’n gilydd ar draws Gwent i ddileu Hepatitis B ac C fel bygythiad i iechyd cyhoeddus erbyn 2030. Cafwyd adborth da i’r digwyddiadau yr ydym wedi’u mynychu, ac rydym wedi magu ymddiriedaeth a chysylltiad gyda phobl ar draws ein cymunedau yng Ngwent.

Mae triniaeth effeithiol ar gyfer Hepatitis B ac C, ac mae’r prawf ar gyfer Hepatitis yn brawf gwaed pigiad pin syml y gallwch gael mynediad ato mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys rhai fferyllfeydd cymunedol, practisau meddygon teulu a Gwasanaethau Iechyd Rhywiol. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein gwefan. Yna, mae ein tîm Hepatoleg yn gweithio i sicrhau bod pobl yn cael eu canlyniadau ac yn cael yr hyn y maent ei angen o ran triniaeth neu gymorth parhaus.

Fel Bwrdd Iechyd, byddwn yn parhau i gefnogi ac amddiffyn y rhai sydd mewn angen er mwyn ein helpu i adeiladau cymunedau cryf a gwydn ar draws Gwent.

Dywedodd Gavin, sydd wedi bod yn Nyrs Glinigol Arbenigol ym maes Hepatoleg BIPAB am y 13 mlynedd ddiwethaf:

“Yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi gweld datblygiadau enfawr o ran y driniaeth ar gyfer Hepatitis C. Bellach, mae triniaeth tabledi yn unig hynod effeithiol ar gael. Bydd cleifion yn cymryd y rhain am 8-12 wythnos yn unig ac maent yn cael eu goddef yn dda. Mae'r driniaeth yn arwain at iachâd yn y mwyafrif helaeth o gleifion. Bellach, mae gennym fynediad at ddiagnosis Hepatitis C cyflym yn ein Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau gyda chanlyniadau yn cael eu rhoi mewn tuag awr.

Gellir trin Hepatitis B i reoli’r feirws a stopio datblygiad clefyd yr iau. Mae’n debyg y bydd triniaethau newydd ar gael yn y dyfodol ac mae ymchwil yn y maes hwn yn parhau.

Cael Prawf. Cael Triniaeth”

Ewch i’n gwefan i ddod o hyd i fwy am sut y gallwch gael eich profi:  Profion firws a gludir yn y gwaed (BBV) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)