Neidio i'r prif gynnwy

"Gofalodd Staff Achub Bywyd Am Ein Merch Fel Un O'u Hunain" Dywed Rhieni Baban Cynamserol

Dydd Iau 17 Tachwedd 2022

Mae teulu ifanc, o Gasnewydd, o ferch cafodd ei geni’n gynamserol wedi cynnig geiriau o gysur a chyngor i gyd-rieni newyddenedigol ar Ddiwrnod Babnod Cynamserol y Byd.

 

Croesawodd Kathryn Porter a Francis Binnell, o Gasnewydd, eu merch fach, Emily, ar 19 Tachwedd 2019 pan gyrhaeddodd bron i ddau fis yn gynnar ar 32 wythnos 6 diwrnod o feichiogrwydd.

Er iddi crio'n dda i ddechrau, yn fuan roedd angen rhywfaint o gymorth anadlu arni a chymorth gan y meddygon a'r nyrsys i'w sefydlogi. O fewn munudau, ar ôl cwtsh cyflym iawn gyda Mam, cafodd ei chludo i'r Uned Gofal Dwys Newyddenedigol (NICU) yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Wedi'u gorchuddio â thiwbiau anadlu, ni chafodd Mam a Dad y foment arferol croen wrth groen gydag Emily a threuliodd y dyddiau nesaf ar yr Uned Dibyniaeth Fawr, ac yna bron i fis yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn derbyn cymorth anadlu a bwydo.

 

Wrth fyfyrio ar eu hamser yn yr uned, dywedodd Mam, Kath, a Dad, Fran:

“Ni all unrhyw beth eich paratoi ar gyfer bod yn rhiant ond yna ni allwch ychwaith fod yn barod yn feddyliol ar gyfer bod yn y 10% o rieni sy'n mynd trwy daith NICU. Seiniau'r peiriannau bîp; mae'r teimlad o anobaith wrth i chi wylio'ch babi yn brwydro am bob anadl yn artaith lwyr. Pe gallem fod wedi rhoi ein hanadl iddi, byddem wedi.

“Gadael yr ysbyty bob nos hebddi oedd y peth anoddaf i ni erioed ei wneud. Gwyddom ei bod yn ddiogel a bod angen iddi fod yno, ond nid oedd hynny'n atal y dagrau rhag dod bob nos. Byddai’n cymryd dros awr o benderfynu ei bod yn amser mynd adref am ychydig o seibiant i adael ochr ei crud, gan fod popeth ynom yn sgrechian arnom i aros gyda hi.”

 

Ar ôl mis yn yr uned, roedd Emily yn bwydo'n annibynnol ac wedi tyfu digon i allu mynd adref.

Dywedodd Fran“O’r diwedd allwn ni fynd â’n merch fach adref gyda ni, a nid oedd teimlad gwell!”

Mae Kath a Fran yn canmol staff NICU am eu profiad: “Roedd y meddygon a’r nyrsys anhygoel yn NICU yn gofalu am ein merch fel y byddent yn gofalu am un o'u hunain, gan roi triniaeth achub bywyd a gofal tosturiol iddi.

“Doedden nhw byth yn rhy flinedig nac yn rhy brysur i gymryd galwad ffôn am 4yb gennym ni i roi sicrwydd i ni ei bod hi’n iawn. Hebddynt, mae posibilrwydd gwirioneddol na fyddai hi yma heddiw.”

Bellach ddeuddydd i ffwrdd o’i phen-blwydd yn dair mlwydd oed, mae Emily yn ferch fach iach, hapus, ddoniol, ac yn chwaer hŷn gariadus i Lucy sy’n 11 mis oed.

 

Dywedodd Kath:

“Cymorth, caredigrwydd a thrugaredd y staff, ynghyd â'r cwlwm rydych chi'n ei wneud â rhieni eraill yn yr uned sy'n eich cadw chi i fynd trwy'r daith hon. Mae wir yn gymysgedd wyllt o emosiynau, cwestiynau, blinder, a gobaith. Rydyn ni wedi dod o hyd i ffrindiau am oes, ac mae'n wir y gall babanod cynamserol dyfu i fod 'yn union fel babanod eraill' ac yn aml yn gwneud hynny, a dyna'r cyfan rydych chi ei eisiau pan fyddwch chi ar yr uned."

Dywedodd Fran:

“Roedd taith NICU Emily, er ei bod yn anodd i ni, yn gymharol syml ar ôl y dyddiau cyntaf. Roeddem yn hynod ffodus na chafodd unrhyw gymhlethdodau difrifol ac nad oes ganddi unrhyw gyflyrau hirdymor i ymdopi â nhw.

“Mae llawer o fabanod cynamserol yn mynd trwy fwy yn ystod eu hwythnosau a misoedd cyntaf eu bywydau nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddioddef yn ystod eu hoes.”

 

 

Wrth annerch cyd-rieni NICU, dywedodd Kath a Fran:

“Maen nhw'n rhyfelwyr bach go iawn ac yn tyfu i fod yn rhai o'r plant cryfaf, mwyaf gwydn erioed. Arhoswch yn gryf, gall eich taith fod yn un fyr neu’n un hir ond yn aml bydd diweddglo hapus.”


 

Dydd Iau 17 Tachwedd 2022 yw Diwrnod Babanod Cynamserol y Byd, sy'n codi ymwybyddiaeth o enedigaeth gynamserol a'r effaith ddinistriol y gall ei chael ar deuluoedd.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan enedigaeth gynamserol, dewch o hyd i gymorth gan Bliss.