Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Podiatreg yn dychwelyd i Ganolfan Adnoddau Blaenafon

Mae gwasanaethau podiatreg yn dychwelyd i Ganolfan Adnoddau Blaenafon yr wythnos yn dechrau 29 Mai 2023. Byddant yn cynnal sesiynau ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 8.45am a 5.15pm.

Mae podiatryddion yn trin nifer o gyflyrau gan gynnwys cyflyrau sy'n effeithio ar esgyrn, cymalau, meinwe meddal a chyflenwad gwaed. Maent yn gweithio i atal problemau traed rhag digwydd, yn cywiro anffurfiad, yn cadw pobl yn symud ac yn actif, yn lleddfu poen ac yn trin heintiau.

Nid ydynt yn darparu gwasanaeth torri ewinedd cymdeithasol felly byddai’n well eu cyfeirio at Age Connect ac Age Cymru mewn perthynas â hyn:

Age Cymru | Ni yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. (ageuk.org.uk)

Ceir mynediad i wasanaethau Podiatreg trwy atgyfeiriad gan Feddyg Teulu neu Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol, nid oes system hunan-atgyfeirio.