Bydd CAMHS yn cynnal amrywiaeth o weithdai ar Dimau MS yn ystod Hanner Tymor Hydref 2023 ar gyfer yr holl blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ledled Gwent. Defnyddiwch y ffurflen archebu/cod QR isod a gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu o leiaf 24 awr cyn y sesiwn. Mae croeso i rieni fynychu gyda'u person ifanc ond ni fyddwn yn gallu ateb unrhyw ymholiadau CAMHS unigol yn ystod amser y gweithdy.
Deall Emosiynau
Gweithdy 1 awr yn archwilio teimladau ac emosiynau. Sylwch fod y gweithdy hwn hefyd ar gael i ddisgyblion blwyddyn 6 sy'n symud i'r ysgol uwchradd.
Pryd ?
Dydd Iau 2 Tachwedd - 11yb
5 Ffordd at Les
Gweithdy 1 awr yn rhannu awgrymiadau a syniadau ar ffyrdd hawdd y gall myfyrwyr fynd ati i wella eu llesiant eu hunain
Pryd ?
Dydd Mercher 1 Tachwedd - 11am
Deall Pryder
Gweithdy 1 awr yn archwilio beth yw gorbryder a rhannu strategaethau i reoli teimladau o bryder mewn ffordd gadarnhaol
Pryd ?
Dydd Mercher 1 Tachwedd - 2pm
Gwybodaeth Archebu
I gofrestru ar gyfer un o'r sesiynau a restrir, dilynwch y ddolen Microsoft Forms neu sganiwch y cod QR isod: