Heddiw, buom yn dathlu ein staff sydd wedi gwasanaethu yn y GIG ers 25 a 40 mlynedd o fewn amrywiaeth o rolau.
Yn y digwyddiad Gwasanaeth Hir, a agorwyd gan ein Prif Weithredwr, Nicola Prygodzicz, daeth yr aelodau staff anhygoel hyn at ei gilydd i dderbyn eu gwobrau Gwasanaeth Hir gan ein Cadeirydd, Ann Lloyd.
Cyflwynwyd gwobr arbennig iawn hefyd i’n Cadeirydd, Ann, a gafodd ei chydnabod am 50 mlynedd anhygoel o wasanaeth i’r GIG.
Llongyfarchiadau i bawb a diolch am eich ymrwymiad a'ch ymroddiad!