Neidio i'r prif gynnwy

Gwybod Ble i Gael Help gyda Salwch y Penwythnos Hwn

Dydd Gwener 14 Hydref 2022

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mewn cleifion sâl (nid ag anafiadau) yn mynychu ein Hunedau Mân Anafiadau - mae hyn yn golygu eu bod wedi gorfod cael eu hailgyfeirio, sy'n rhwystredig ac, o bosib, yn beryglus iddyn nhw.

NID yw ein Hunedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent (Casnewydd), Ysbyty Nevill Hall (Y Fenni), ac Ysbyty Ystrad Fawr (Ystrad Mynach) yn gallu trin afiechydon/ salwch- dim ond anafiadau. Darganfod mwy am ein Hunedau Mân Anafiadau.

Os ydych yn sâl ac angen gofal brys, ffoniwch 111 i drefnu apwyntiad gyda Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau. Os oes gennych salwch llai difrifol, gellir ymweld â'ch fferyllydd lleol neu wirio'ch symptomau ar-lein.

Diolch.