Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau a restrir isod, ni waeth pa mor ysgafn, peidiwch â mynd i’ch apwyntiad.
Dylech ynysu gartref ac archebu prawf coronafeirws ar unwaith.
Cysylltwch â ni i drafod trefniadau amgen, gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir yn eich llythyr apwyntiad.
Ar adegau, bydd eich clinigydd yn penderfynu y dylai eich apwyntiad fynd rhagddo yn ôl y bwriad.
Sylwch y cewch eich sgrinio am symptomau wrth gyrraedd eich clinig.
Dim ond ar gyfer cleifion y mae apwyntiadau. Disgwylir i’r rhan fwyaf o gleifion fynd ar eu pennau eu hunain.
Rydym yn cydnabod y gall fod angen cymorth corfforol neu emosiynol allweddol ar rai cleifion, a rhaid cyfyngu hyn i un person yn unig.
Rhowch wybod i ni ymlaen llaw gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn eich llythyr apwyntiad.
Cyrhaeddwch yn brydlon.
Peidiwch â mynd i dderbynfa’r clinig mwy na 5 munud cyn eich amser apwyntiad. Bydd hyn yn ein helpu i gadw pellter cymdeithasol mewn mannau aros ac yn osgoi niferoedd mawr yn cyrraedd ar un pryd.
Efallai y gofynnir i chi aros yn rhywle arall cyn cael eich galw.
Rydym wedi ynysu ardaloedd COVID-19 o’r ysbyty ac mae rhai mynedfeydd bellach ar gau.
Dilynwch yr arwyddion i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas.
Mae gan rai o’n safleoedd system unffordd ar waith.
Cofiwch fod bwytai ar ein safleoedd ar hyn o bryd ar agor i staff yn unig.
Rydym yn annog cleifion i ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain i’w hapwyntiad.
Mae gennym beiriannau gwerthu ym mhob rhan o’n hysbytai, ac mae gennym hefyd ‘Feast Point’ ar gael yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr. Mae’r rhain yn cynnig prydau a byrbrydau y gellir eu rhoi mewn microdon yn y peiriant gwerthu.
Lawrlwythwch y wybodaeth hon mewn fformat .pdf