Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Bwysig am ein Hadrannau Brys

Dydd Gwener 23 Hydref 2020

Rydym yn trin nifer cynyddol o gleifion yn ein hysbytai sy’n dioddef o COVID-19. Mae ein Hadrannau Brys yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent dan bwysau sylweddol oherwydd y nifer o gleifion sydd yno, rhai yn dioddef o COVID ac eraill ag anhwylderau gwahanol. 

Mae ein hamseroedd aros yn hir a hoffem ofyn am eich cymorth drwy gadw draw o’n Hadrannau Brys oni bai eich bod yn ddifrifol wael ac angen gofal brys.

Os byddwch yn dod i’r ysbyty ond gwelir nad ydych angen gofal brys nac yn ddifrifol wael, fe gewch eich ailgyfeirio at wasanaethau mwy priodol.

Bydd dewis y lleoliad cywir i gael cyngor a gofal yn ein helpu i sicrhau na fydd ein Hysbytai dan eu sang a’n galluogi i ddarparu triniaeth amserol i’r cleifion sydd ei angen fwyaf. Dewiswch yn gall ac ystyriwch eich fferyllfa leol, eich Meddyg Teulu, neu Uned Mân Anafiadau a ffoniwch GIG 111 am gyngor. Gallwch ffonio 111 hefyd os bydd angen gofal sylfaenol brys arnoch pan fydd eich syrjeri Meddyg Teulu ar gau.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod heriol ac unigryw hwn.