Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Bwysig ynghylch Feddygfa Lansbury, Caerffili

Mae cleifion Meddygfa Lansbury, Caerffili, yn cael gwybod y bydd Dr Fakande yn ymddiswyddo o'i Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o 30 Ebrill 2020. Fel Meddyg Teulu ar ei ben ei hun, mae'n ofynnol i Dr Fakande ddarparu cyfnod rhybudd o dri mis.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn sicrhau y bydd gan bob claf sydd wedi'i gofrestru ar hyn o bryd â Feddygfa Lansbury fynediad at Feddygfa Teulu o 1 Mai 2020, a bydd Dr Fakande yn parhau i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i gleifion fel arfer nes i'r contract ddod i ben ar 30 Ebrill 2020.

Cyfarfu Panel Ymarfer Gwag y Bwrdd Iechyd ar Ddydd Gwener 24 Ionawr 2020 i drafod yr opsiynau sydd ar gael. Cytunwyd y byddai'r practis yn cael ei hysbysebu'n genedlaethol, gyda'r nod o recriwtio Contractwr Meddygon Teulu newydd i barhau i ddarparu gwasanaethau Meddygon Teulu i'r cleifion sydd wedi'u cofrestru â Meddygfa Lansbury.

Rhoddir llythyrau i gleifion yn egluro hyn yn ystod y dyddiau nesaf.

Bydd sesiynau galw heibio yn cael eu trefnu ym Meddygfa Lansbury fel y gall cleifion drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt gyda chynrychiolydd y Bwrdd Iechyd a byddwn yn rhoi gwybodaeth i gleifion ynghylch pryd mae'r rhain yn digwydd.

Nid oes angen i gleifion y Feddygfa wneud unrhyw beth ar yr adeg hon. Os oes gennych unrhyw bryderon yn y cyfamser, cysylltwch â Meddygfa Lansbury ar 02920 886006 neu aelod o'r Tîm Gofal Sylfaenol ar 01495 241255.

Gweler y rhestr lawn o Gwestiynau Cyffredin