Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru Ynglŷn â Gwarchod

Ar ôl y cyfnod clo yng Nghaerffili, i breswylwyr a oedd yn Gwarchod cyn 16 Awst ac sy'n aros ar y Rhestr Cleifion Gwarchod, nid oes newid i'r cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno Gwarchod ar hyn o bryd.

Byddant yn parhau i fonitro'r sefyllfa hon yn ofalus a byddant yn ysgrifennu'n uniongyrchol at bobl ar y rhestr os bydd hyn yn newid.

Yn y cyfamser, dylai'r rhai a oedd yn Gwarchod yn flaenorol ystyried y cyngor a roddwyd iddynt eisoes ar sut i gadw'n ddiogel;

  •  Cadwch gysylltiadau y tu allan i'r cartref mor isel ag y bo'r cartref ac osgoi pob sefyllfa naill ai y tu mewn neu'r tu allan lle na allwch gynnal mesurau Ymbellhau Cymdeithasol o 2m oddi wrth y rhai y tu allan i'ch cartref
  • Golchwch eich dwylo am 20 eiliad gyda sebon a dŵr yn rheolaidd a defnyddiwch ddiheintiwr dwylo lle nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael
  • Defnyddiwch slotiau siopa â blaenoriaeth neu ewch i archfarchnadoedd ar adegau tawelach o'r dydd
  • Osgowch cyffwrdd ag arwynebau sydd wedi'u cyffwrdd gan eraill.

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Warchod ac amddiffyn pobl

Am Gwestiynau Cyffredin, ewch i: Wefan Llywodraeth Cymru