Hoffech chi wneud gwahaniaeth gyda'ch sgiliau gwnïo?
Mae calonnau porffor yn cael eu cynnwys mewn blychau cof a roddir i deuluoedd mewn profedigaeth gan y tîm Gofal ar ôl Marwolaeth. Rhoddir pob calon gyda'r perthynas ymadawedig a rhoddir un gyfatebol i aelodau'r teulu, i helpu gyda'u profedigaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud a rhoi calonnau porffor, anfonwch nhw at y tîm Gofal ar ôl Marwolaeth, yn Hysbyty Athrofaol y Faenor.