Neidio i'r prif gynnwy

"Helpwch ni i'ch helpu chi y gaeaf hwn" – y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn annog pawb i'n ‘helpu ni, i’ch helpu chi’ wrth iddi gyhoeddi rhagor o gyllid i liniaru’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol a’u helpu y gaeaf hwn.

I helpu’r GIG i adfer yn dilyn y pandemig coronafeirws parhaus, lliniaru amseroedd aros a lleihau pwysau’r gaeaf, mae £12.5 miliwn ychwanegol wedi’i gyhoeddi i gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty a helpu fferyllfeydd i gefnogi mwy o bobl i aros yn iach heb fod angen gweld meddyg teulu.

Bydd y cyllid yn helpu i liniaru’r pwysau ar y system gofal cymdeithasol a fferyllwyr sy’n dal i deimlo effeithiau’r pandemig. 

Bydd £10 miliwn yn cael ei ddosbarthu ar draws y 22 awdurdod lleol i brynu offer i helpu pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Bydd awdurdodau lleol yn gallu prynu offer fel matresi arbenigol, systemau troi cleifion, lifftiau grisiau a theclynnau codi, ac offer teleofal. Byddant hefyd yn gallu rhoi cymorth ariannol ar gyfer addasiadau bach neu ganolig i’r cartref.

Mae cynyddu’r offer sydd ar gael a’i osod cyn i anghenion gofal ddwysáu ymhellach yn gallu rhyddhau gwelyau ysbyty y mae angen mawr amdanynt drwy alluogi pobl i adael yr ysbyty’n gyflymach ac osgoi arosiadau diangen yn yr ysbyty.

Yn ogystal, bydd £2.5 miliwn yn cefnogi fferyllwyr a chleifion drwy wella mynediad at driniaeth a chyngor ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin. Bydd gwell mynediad at fferyllfeydd yn lleihau’r pwysau ar feddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG drwy annog cleifion i siarad gyda fferyllydd cymunedol sy’n rhan o’r cynllun yn hytrach na’u meddyg teulu i gael cyngor a thriniaeth am ddim gan y GIG ar gyfer amryw o anhwylderau cyffredin.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae’r pwysau sy’n wynebu’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn heriol iawn. Mae angen i bob un ohonom gydweithio i gefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan ein helpu ni i’ch helpu chi y gaeaf hwn.

“Gall pethau syml fel mynd i’r fferyllfa leol neu i uned mân anafiadau i gael cyngor ar bryderon iechyd nad ydynt yn ddifrifol, gwirio symptomau ar-lein gan ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru neu gael brechlyn COVID wneud gwahaniaeth mawr i’n GIG a helpu pobl i edrych ar ôl eu hiechyd y gaeaf hwn.

“Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn helpu i fynd i’r afael â’r pwysau sy’n wynebu ysbytai a’r gweithlu mewn gwasanaethau cymunedol a gofal cymdeithasol drwy osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty a chefnogi pobl sydd ddim yn gallu cael eu rhyddhau o ysbytai ar hyn o bryd oherwydd diffyg llefydd gofal i ddychwelyd adref.”