Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Diogelwch CPAP / BiPAP

Dydd Mawrth 6ed Gorffennaf 2021
Er sylw holl gleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n defnyddio peiriannau CPAP neu BiPAP gartref-

Fe'n gwnaed yn ymwybodol o fater posibl gyda Phwysedd Llwybr Awyr Cadarnhaol Bi-Lefel Philips (PAP Bi-Lefel), Pwysedd Llwybr Awyr Cadarnhaol Parhaus (CPAP), a dyfeisiau awyru mecanyddol.

Mae Philips wedi cyhoeddi Hysbysiad Diogelwch Maes. Mae'r rhybudd hwn yn dweud y gall rhan ewyn y peiriant gael ei niweidio o dan rai amodau. Cyhoeddwyd yr hysbysiad hwn yn fyd-eang, felly nid yw'n benodol i'r DU. Mae'r amodau hyn- tymereddau uchel iawn, lleithder uchel, a defnyddio toddiant glanhau heb ei gymeradwyo- yn brin yn y DU.

Mae'r GIG wedi bod yn gweithio'n agos gyda Philips a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) sy'n gyfrifol am ddiogelwch cleifion. Mae adroddiadau am ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r mater hwn yn brin, ac ni adroddwyd am unrhyw ddigwyddiadau o niwed yn y DU.

I'r rhan fwyaf o gleifion, mae'r risg o roi'r gorau i ddefnyddio'r dyfeisiau hyn yn llawer mwy na'r risg o'r mater y mae Philips wedi'i nodi. Mae'r MHRA wedi cynghori y dylai cleifion barhau i ddefnyddio'r dyfeisiau hyn.

Bydd angen symud rhai cleifion â rhai mathau prin iawn o asthma galwedigaethol sy'n gysylltiedig ag isocyanadau i ddyfais arall. Os yw hyn yn berthnasol i chi, rhowch wybod i ni ar y cyfle cyntaf. Os na fydd eich clinigwr yn cysylltu â chi, nid oes angen i chi newid dyfeisiau a gallwch barhau i ddefnyddio'ch dyfais fel arfer.

Bydd Philips yn disodli'r ewyn lleihau sain cyfredol â deunydd newydd cyn gynted â phosibl. Mae'r rhybudd y maen nhw wedi'i gyhoeddi yn gofyn i gleifion gofrestru eu dyfeisiau. Sylwch y byddwn yn gwneud hyn ar eich rhan felly nid oes angen i chi gofrestru'ch dyfais yn uniongyrchol gyda Philips yn unigol.

Os hoffech drafod ymhellach, ffoniwch: 01633 238832 neu 01873 733259