Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Brechlynnau Ffliw

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi datganiad i’r Wasg sy’n rhoi sicrwydd i bobl gymwys fod digon o frechlyn ffliw’r GIG am ddim, ond sy’n rhybuddio y bydd brechu yn cymryd mwy o amser oherwydd galw mawr.

Datganiad i'r Wasg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru - 2ail Hydref 2020

Mae'r galw ymhlith grwpiau cymwys am y brechlyn rhag y ffliw am ddim gan y GIG wedi cyrraedd lefelau digynsail yng Nghymru. Mae fferyllfeydd cymunedol a meddygfeydd ledled y wlad yn profi nifer mawr o ymholiadau, ac mae llawer yn nodi bod yr apwyntiadau presennol yn llawn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi sicrwydd i'r holl drigolion cymwys yng Nghymru bod digon o frechlynnau rhag y ffliw wedi'u harchebu er mwyn iddynt gael brechiad rhag y ffliw am ddim eleni.

Gan adlewyrchu tuedd ar draws y DU, mae'r cyhoedd yng Nghymru wedi croesawu galwadau gan feddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ffliw gael brechiad blynyddol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau'r hyn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd yn flaenorol, y bydd mwy o frechiadau rhag y ffliw ar gael yng Nghymru nag erioed o'r blaen i frechu'r bobl yr ystyrir eu bod fwyaf agored i niwed o ran ffliw.

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae meddygfeydd a fferyllfeydd wedi archebu digon o gyflenwadau o'r brechlyn i'r rhai sy'n cael eu brechu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu cyflenwadau ychwanegol i ateb y galw ychwanegol eleni.

“Mae rhai o'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn rhag y ffliw yn gorfod aros yn hwy nag arfer i sicrhau apwyntiad, ond hoffwn roi sicrwydd i bawb bod digon o stociau ar gael i'r rhai yr argymhellir y brechlyn iddynt.

“Byddwch yn amyneddgar wrth i'ch meddygfa a'ch fferyllfa gymunedol weithio'n galed i ymateb a threfnu apwyntiadau.

“Nid yw'r feirws ffliw fel arfer yn dechrau cylchredeg tan ganol mis Rhagfyr, felly mae gennych ddigon o amser i gael brechiad rhag y ffliw. Mae cael y brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynghori nad yw pob fferyllfa a meddygfa wedi cael eu cyflenwad llawn o frechiadau rhag y ffliw eto, sy'n arferol. Ac, fel sy’n digwydd bob blwyddyn, mae cyflenwadau'n cael eu darparu'n raddol i feddygon teulu a fferyllfeydd.

Eleni, mae brechlynnau ffliw ychwanegol wedi'u caffael gan Lywodraeth Cymru, ac maent i fod i gyrraedd ym mis Tachwedd, i sicrhau bod digon o frechlynnau ar gael ar gyfer unigolion cymwys.

I gadw pobl yn ddiogel rhag COVID-19, mae nifer o fesurau ychwanegol wedi'u rhoi ar waith mewn lleoliadau gofal iechyd fel fferyllfeydd cymunedol a meddygfeydd, sy'n golygu y gall apwyntiadau am frechlyn rhag y ffliw eleni gymryd ychydig yn hirach nag arfer. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae mwy o glinigau'n cael eu cynnal.

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn rhag y ffliw am ddim gan y GIG ar hyn o bryd yn cynnwys pobl â chyflwr iechyd hirdymor, pobl 65 oed a throsodd, menywod beichiog, plant rhwng dwy oed a deg oed, gofalwyr, gofalwyr cartref a staff cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid yn ogystal â phreswylwyr cartrefi gofal.

Mae'r brechlyn rhag y ffliw hefyd am ddim ar gyfer ymatebwyr Cymunedau yn Gyntaf a gwirfoddolwyr sy'n darparu cymorth cyntaf wedi'i gynllunio. Mae brechiad blynyddol rhag y ffliw hefyd yn cael ei argymell i'r holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen i ddiogelu eu hunain a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Bydd plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2020) a phob plentyn ysgol gynradd (dosbarth derbyn i flwyddyn chwech) yn cael cynnig y brechlyn ar ffurf chwistrell drwynol. Gall plant o ddwy oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor hefyd gael brechlyn chwistrell drwynol.

Ar gyfer rhaglen ffliw'r tymor hwn, mae grwpiau newydd wedi'u hychwanegu at y rhestr gymwys. Mae'r grwpiau cymwys newydd yn cynnwys cysylltiadau ar aelwyd y rhai ar restr y GIG o'r cleifion a warchodir a phawb ag anabledd dysgu.

Gall unrhyw un ddal y ffliw. Mae'r symptomau'n debygol o gynnwys; twymyn, oerfel, blinder a gwendid, cur pen, poenau cyffredinol a pheswch sych, ar y frest. Mewn hyd at hanner yr achosion gall pobl gael y ffliw heb hyd yn oed sylweddoli hynny – a gallant ei ledaenu i eraill o hyd.

Mae rhai o symptomau COVID-19 yn debyg i'r ffliw felly gwiriwch y cyngor diweddaraf a dilyn y canllawiau COVID-19 presennol.

I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledu, cofiwch ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa.’

Y tymor ffliw hwn, gall y trefniadau fod yn wahanol oherwydd y Coronafeirws Newydd (COVID-19). I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ac i wirio cymhwysedd, ewch i www.curwchffliw.org neu chwiliwch am Curwch Ffliw ar Twitter a Facebook.