Neidio i'r prif gynnwy

JCVI yn cyhoeddi cyngor ar frechu plant a phobl ifanc yn erbyn COVID-19

Dydd Mawrth 20 Gorffennaf 2021

Mae JCVI yn cyhoeddi cyngor ar frechu COVID-19 ar gyfer plant a phobl ifanc.

Yn dilyn y cyhoeddiad ac argymhellion diweddar gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ynghylch cymeradwyo brechu COVID-19 ar gyfer y rhai rhwng 12 a 17 oed, bydd y rhai sydd â risg uwch o ddal COVID-19, a phawb o fewn deuddeg wythnos i droi’n 18 oed bellach yn gymwys i dderbyn y brechlyn.

Hoffem roi sicrwydd i’n trigolion y byddwn yn cysylltu â phawb sy’n cwrdd â’r meini prawf wedi’u diweddaru i gynnig apwyntiad dros yr wythnosau nesaf. Gofynnwn i chi beidio â chysylltu â ni i wneud cais am apwyntiad, ond gofynnwn i chi sicrhau bod eich manylion chi neu’ch plentyn a gedwir gan eich Meddygfa Teulu, yn gyfredol. Anelwn at hysbysu pob unigolyn o leiaf wythnos cyn eu hapwyntiad ac anfonir llythyrau i'ch cyfeiriad cartref cofrestredig a gedwir gan eich Meddyg Teulu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: JCVI yn cyhoeddi cyngor ar frechu plant a phobl ifanc yn erbyn COVID-19 - GOV.UK (www.gov.uk)