Pan aeth Joe, 7 oed, a’i deulu ar wyliau i Roeg, doedd yr un ohonynt yn disgwyl iddo ddychwelyd adref wedi torri ei fraich!
Ar ôl iddynt gyrraedd y DU, aeth teulu Joe ag ef yn syth i un o’n Hunedau Mân Anafiadau, sy’n brofiadol o ran trin esgyrn wedi’u torri. Dyma’r anafiadau eraill all yr uned eu trin yma.
Rhannodd Alison, Mam Joe, yr adborth canlynol wedi eu profiad:
“Diolch o galon am ofalu am fy arwr bach i. Ar ôl profiad hunllefus mewn ysbyty dramor, fe wnaethoch i ni deimlo’n ddiogel a thawel ein meddwl. Diolch i’r staff arbennig yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Brenhinol Gwent a ofalodd amdanom pan gyrhaeddom o’r maes awyr. Diolch i ward anhygoel C1 yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, yn cynnwys Jodie, Amanda, Jonathan a llu o bobl eraill. Ac wrth gwrs, diolch o galon i’r tîm llawfeddygol anhygoel, yn cynnwys Mr Kadambande ac Angharad, ein hanesthetydd wych, a dawelodd feddwl bachgen bach ofnus a hwythau yn atgyweirio ei ‘fraich fetel hynod gryf.’”