Neidio i'r prif gynnwy

Lansio ap yng Nghymru i helpu i gefnogi pobl sydd â symptomau COVID hir

Lansiwyd ap adfer COVID ar Ddydd Mercher 20fed Ionawr fel rhan o gymorth ehangach a gynigir i unigolion sy’n byw gydag effeithiau hirdymor wedi iddynt ddal y Coronafeirws.

Mae’r ap dwyieithog, y cyntaf o’i fath, wedi cael ei ddatblygu gan Grŵp Gweithredu Iechyd Anadlol Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Cafodd ei gynllunio fel adnodd pwrpasol a hyfforddwr personol i helpu unigolion ar eu taith i adfer eu hiechyd. 

Gyda mwy na 100 o fideos a dolenni at gyngor, bydd defnyddwyr yr ap yn gallu cofnodi eu symptomau, cadw ar drywydd eu cynnydd a dysgu sut i reoli eu cyflwr gartref gyda chymorth. Mae’n cynnwys cyngor gan Therapyddion, Seicolegwyr, Deietegwyr ac Ymgynghorwyr. 

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am yr ap ar wefan Llywodraeth Cymru.