Mae RSV yn achosi rhwng 400-600 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn a thros 1,000 o dderbyniadau i'r ysbyty mewn babanod ifanc yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd y rhaglen frechu RSV newydd sy'n cael ei lansio heddiw (2 Medi 2024) yn darparu amddiffyniad yn erbyn yr haint anadlol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn feirws heintus sy'n cylchredeg yn yr hydref a dechrau'r gaeaf, gan heintio'r rhan fwyaf o blant o fewn dwy flynedd gyntaf eu bywyd ac yn aml yn ailheintio plant hŷn ac oedolion.
Er ei fod yn feirws cyffredin, canfu arolwg diweddar Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus* gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o dros 1,000 o oedolion yng Nghymru fod dros 60 y cant wedi dweud nad oeddent wedi clywed am RSV, sy'n golygu nad yw mwyafrif y bobl yn ymwybodol o'r risg a berir i fabanod ac oedolion hŷn.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae haint RSV yn achosi salwch anadlol is ysgafn gyda symptomau tebyg i annwyd, ond mae babanod o dan un oed a'r henoed yn wynebu risg uwch o salwch mwy difrifol a allai arwain at orfod mynd i'r ysbyty. Mae'r dystiolaeth yn dangos i ni bod y brechlyn yn ddiogel ac yn cynnig amddiffyniad rhagorol, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol GIG Cymru yn ystod misoedd prysur y gaeaf.
Mae'r rhaglen ar gyfer oedolion sy'n cael eu pen-blwydd yn 75 oed ac i ddarpar famau yn ystod beichiogrwydd o 28 wythnos hyd at y cyfnod llawn. Bydd pawb sy'n gymwys yn cael gwahoddiad yn uniongyrchol, neu eu cyfeirio gan eu bydwraig yn ystod clinigau cyn geni, o heddiw ymlaen.
Y brechlyn RSV yw'r pedwerydd brechiad a gynigir yn ystod beichiogrwydd, ynghyd â'r pas, ffliw a COVID-19. Mae'r brechlynnau'n cael eu cynnig ar wahanol gamau o feichiogrwydd ac maent yn cynnig amddiffyniad rhagorol rhag salwch difrifol i'r fam ac i'r babi.
Meddai Dr Christopher Johnson, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn gyffrous i weld y rhaglenni brechu ar gyfer RSV yn dod yn realiti ac yn gwybod ein bod bellach yn gallu amddiffyn y mwyaf agored i niwed yng Nghymru ac ar draws y DU rhag yr hyn a all fod yn feirws mor ddinistriol. Er ei fod yn ysgafn i'r rhan fwyaf, gall y feirws hwn achosi salwch difrifol i'r ifanc iawn ac mae'n gyfrifol am o leiaf 400-600 o farwolaethau mewn oedolion hŷn bob blwyddyn.
“Byddwn yn annog pawb sy'n feichiog a'r rhai sy'n cael eu pen-blwydd yn 75 oed i fanteisio ar y cynnig o'r brechlyn RSV pan gaiff ei roi gan eu darparwr gofal iechyd. Drwy wneud hynny, byddwch nid yn unig yn amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid, ond byddwch hefyd yn arwain y ffordd at greu byd lle mae heintiau RSV yn achosi llai o niwed a thrallod
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Drakeford:
“Mae RSV yn gyffredin iawn a gall fod yn fygythiad i'n hiechyd, ond nid yw llawer o bobl yng Nghymru erioed wedi clywed amdano.
Rydym wedi gweithio gyda'r GIG i gyflwyno'r brechlyn hwn a allai achub bywydau cyn misoedd y gaeaf pan rydym yn gweld cynnydd mewn heintiau yn draddodiadol. Gallai'r brechlyn hwn helpu i leihau nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda salwch difrifol a achosir gan RSV a helpu i leddfu'r rhywfaint o bwysau'r gaeaf a brofir gan y GIG.
Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig o frechiad RSV.”
Meddai Dr Mair Parry, pediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor:
“Mae cyflwyno'r brechlyn RSV newydd hwn yn newyddion gwych, oherwydd rydym yn gwybod y bydd yn helpu i atal babanod agored i niwed rhag mynd yn ddifrifol wael oherwydd y feirws RSV.
“Mae RSV yn effeithio ar filoedd o blant ledled Cymru bob gaeaf, gyda channoedd yn mynd i'r ysbyty – weithiau gyda symptomau difrifol iawn neu heintiau cysylltiedig.
“Mae RSV yn feirws cyffredin. Ond yn yr achosion mwyaf difrifol gall arwain at ein plant ieuengaf yn datblygu salwch difrifol fel bronciolitis a niwmonia a chael eu derbyn i'r ysbyty i gael help gydag anadlu a bwydo. Bydd llawer o rieni yn gwybod y straen a'r pryder enfawr sy'n gysylltiedig â phlant sâl yn cael eu derbyn i'r ysbyty.
“Gan ei fod bellach wedi'i gyflwyno, bydd y brechlyn hwn yn helpu i leihau'n sylweddol y siawns y bydd plant ifanc – a phobl hŷn – yn mynd yn sâl ac angen dod i'r ysbyty.
“Bydd hyn yn helpu i'n cadw ni i gyd yn iach yn ystod y gaeaf, a hefyd yn helpu i leddfu'r pwysau ar ysbytai ar un o'n cyfnodau prysuraf o'r flwyddyn.”