Neidio i'r prif gynnwy

Lawnsir Gwefan Iechyd Meddwl newydd yn Gwent

Dydd Gwener 22ain Ionawr 2021

Ydych chi wedi ymweld â melo.cymru eto?

Y wefan newydd yw y lle i fynd i gael gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl os ydych yn byw yng Ngwent (hynny yw Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent.)

Ni fu gofalu am ein lles meddyliol ein hunain, a lles ein hanwyliaid erioed yn bwysicach. Mae pandemig COVID-19 wedi dod â llawer o heriau, pryderon a straen, ac mae llawer ohonom wedi gorfod datblygu sgiliau newydd a ffyrdd newydd o ymdopi.

Er na allwn ddileu problemau bywyd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ymdopi â nhw.

Ar y wefan fe welwch adnoddau, cyrsiau a chyfleoedd lleol i gynnal a gwella eich iechyd meddwl a chorfforol. Mae gwybodaeth bwysig hefyd am geisio help i chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod.