Neidio i'r prif gynnwy

Lefel Rhybudd yng Nghymru i'w Gostwng Dydd Llun nesaf, 17 Mai

Rydym yn falch iawn o weld y bydd lefel y rhybudd yng Nghymru yn gostwng o Ddydd Llun nesaf, 17 Mai.

Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau cyflwyno ymwelwyr yn ôl i'n hysbytai, sydd yn bwysig iawn i les ein cleifion a'u teuluoedd. Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn mewn ffordd mor ddiogel â phosibl ac rydym am amddiffyn ein cleifion a'n staff yn ein hysbytai.

Yr ydym yn gweithio drwy logisteg hyn ac yr ydym yn falch o ddweud y byddwn mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y trefniadau newydd yn gynnar iawn yr wythnos nesaf.

Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth barhaus.