Neidio i'r prif gynnwy

Linell Amser LHDTC+ Gwent

Ym mis Chwefror eleni, fel rhan o fis hanes LHDT+, mae aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac aelodau Gwent o rwydwaith y Cynghorau Balch yn eich gwahodd i ymuno â ni wrth i ni edrych ar Linell Amser LHDTC+ Gwent (Gwent Edition)

Mae Llinell Amser LGBTQ+ Gwent yn un mewn cyfres o linellau amser sy'n cael eu cynhyrchu i dynnu sylw at adegau allweddol yn stori LHDTC+ Cymru.

Mae’r awdur a’r hanesydd Norena Shopland wedi defnyddio ei chasgliad o ddeunydd hanesyddol Cymreig ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd i lywio’r llinell amser, yn ogystal â straeon a gwybodaeth gan y rhai a gyfrannodd at Grŵp Ymchwil Hanes LHDT+ Cymru / LGBTQ+ Cymru, grŵp a sefydlwyd i annog a hyrwyddo ymchwil i hanes LHDTC+ Cymru. Ariennir eu gwefan, LGBTQ Cymru, gan Brifysgol Abertawe i gofnodi cymaint o wybodaeth â phosibl am yr hanes hwn.

Rydyn ni nawr eisiau i bobl helpu i adolygu ein gwaith hyd yma a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer cynnwys ychwanegol. Rydym yn chwilio am straeon LHDTC a digwyddiadau nodedig o ddyfnderoedd hanes hyd heddiw!

Isod mae’r linc i ffurflen ‘Microsoft Forms’, ble gallwch chi gyflwyno eich cofnod chi i’r llinell amser. Hwn fydd un o nifer o’r cyfleoedd i aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno ei straeon i gael ei gynnwys, os oes digwyddiadau arwyddocaol neu wybodaeth ar goll. Bydd y llinell amser wedi ei diweddaru yn cael ei ail lansio mis Mehefin fel rhan o ddathliadau Mis Pride.

https://forms.microsoft.com/e/mncM0f10qc 


Am fwy o wybodaeth ar  waith Prifysgol Abertawe a hanes LHDT+ Cymru/ Grwpiau Ymchwil Cymru LHDTC+ i ddarparu platfform i gyfranwyr i hanes LHDT+ yng Nghymru ewch i :

Contact – LGBTQ Cymru (swansea.ac.uk)