Dydd Mercher 12 Ebrill 2023
Byddwch yn ymwybodol bod Bloc E yn Ysbyty Brenhinol Gwent wedi dioddef llifogydd.
Y gwasanaethau sy'n gweithredu yn y maes hwn yw Offthalmoleg a Chlust, Trwyn a Llwnc (ENT). Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio i leihau unrhyw darfu ar wasanaethau. Fodd bynnag, efallai y bydd angen aildrefnu a/neu adleoli rhai apwyntiadau clinig.
Cysylltir yn uniongyrchol â'r holl gleifion yr effeithir arnynt.
Oherwydd natur y difrod mae gennym swyddogaethau swyddfa gyfyngedig yn yr ardal. Felly, dim ond ar gyfer ymholiadau brys y dylech gysylltu â'r adran.
Cysylltir ag unrhyw gleifion sy'n aros am ganlyniadau prawf cyn gynted â phosib.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.