Neidio i'r prif gynnwy

Platfform Adnoddau newydd ar gyfer staff cartrefi gofal a gofal cartref

Mae Gwelliant Cymru yn lansio Platfform Adnoddau newydd ar gyfer staff cartrefi gofal a gofal cartref i sicrhau mynediad cyflym a hawdd at wybodaeth hanfodol

 

Roedd Gwelliant Cymru yn cydnabod y gallai staff cartrefi gofal a staff gofal cartref arbed amser hollbwysig pe byddai modd iddynt gael gafael ar yr wybodaeth ar-lein sydd ei hangen arnynt yn ddyddiol, mewn un lle, naill ai ar ffôn symudol neu gyfrifiadur.

Gweithiodd tîm Gofal Cartref Cymru yn Gwelliant Cymru mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, i nodi'r wybodaeth y mae angen i staff ei chyrchu, ac yna maent wedi darparu'r dolenni ar Blatfform Adnoddau un stop. 

 

Mae ar gael ar ap (Saesneg yn unig) a gwefan (ddwyieithog) i'w gwneud hi'n hawdd gweld, dros y ffôn neu fwrdd gwaith, mewn gwahanol leoliadau lle mae staff yn ystod eu sifftiau.  Mae'r dolenni’n cynnwys gwybodaeth am reoli heintiau, nodi dirywiad, iechyd meddwl a llesiant, COVID-19, hyfforddiant, arweiniad a chysylltiadau defnyddiol.

 

Dywedodd Rosalyn Davies, Arweinydd Rhaglen Gwelliant Cymru: “Rydym yn falch iawn o ddarparu cefnogaeth i staff cartrefi gofal a staff gofal cartref gyda'r Platfform Adnoddau sy'n darparu'r cysylltiadau sydd eu hangen ar staff prysur i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Hoffem ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru ac i’n partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol am eu cyfraniadau a'u cefnogaeth."

 

Gellir cael mynediad i’r Platfform Adnoddau trwy: