Neidio i'r prif gynnwy

#LotsOfSocks ar gyfer Diwrnod Syndrom Down y Byd!

Er mwyn codi ymwybyddiaeth am Ddiwrnod Syndrom Down y Byd, ymunodd llawer o staff yn yr ymgyrch Lots Of Socks drwy wisgo eu sanau mwyaf gwallgof a mwyaf lliwgar ar 21 Mawrth.

Y syniad yw dechrau sgwrs, felly pan fydd pobl yn eich holi am eich sanau gallwch ddweud wrthynt, “Rwy’n eu gwisgo i godi ymwybyddiaeth o syndrom Down”.

Rhannodd timau o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd luniau ohonyn nhw a’u cydweithwyr yn gwisgo eu sanau ffynci gyda ni – dyma rai o’n ffefrynnau!

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Syndrom Down y Byd, ewch i: Ymgyrch Lots Of Socks - World Down Syndrome Day