Neidio i'r prif gynnwy

"Mae Aur ym Mhawb" - Grŵp Cymunedol Caerffili yn Defnyddio Ysgrifennu i Gysylltu a Hybu Llesiant

Mae grŵp ysgrifennu cymunedol lleol o Gaerffili, o'r enw "Tales Around the Teapots", yn enghraifft wych o sut y gall y Pum Ffordd at Les - yn enwedig cysylltu, dysgu a rhoi - wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les.

Ers 2022, mae’r grŵp hwn o awduron o Gaerffili wedi bod yn rhannu eu straeon ar YYFM, gan ddefnyddio ysgrifennu fel ffordd o greu cysylltiad, mynegi eu hunain a chefnogi eu gilydd. Mae eu cyfarfodydd rheolaidd a’u penodau yn dangos y llawenydd a ddaw yn sgil cymryd rhan mewn gweithgareddau a chreu cysylltiadau. Maent wedi cael effaith bositif ar les eu haelodau a’u gwrandawyr fel eu gilydd, ac maent yn annog eraill i ddod o hyd i grwpiau tebyg y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt er budd eu lles eu hunain.

Darganfyddwch fwy yn y fideo hwn:

 

Gallwch glywed y penodau ar:

https://podcasters.spotify.com/pod/show/itsyyfm